Dyddiad yr Adroddiad

01/12/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202204370

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr X am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei wraig ar gyfer yr Eryr. Cwynodd ei bod wedi’i rhyddhau o’r ysbyty gyda briwiau agored a’i bod mewn perygl o gael haint eilaidd.

Nododd yr Ombwdsmon fod Mr X a’r Bwrdd Iechyd wedi anghytuno ynghylch y disgrifiad o frech Eryr ei wraig fel brech sych ac wedi cramennu drosti. Derbyniodd y Bwrdd Iechyd fod “y croen yn gignoeth ac yn edrych yn ddolurus” ac y byddai rhai clinigwyr wedi rhoi rhwymynnau ar y briwiau pe bai’r claf wedi gofyn. Roedd yr Ombwdsmon yn arbennig o bryderus o ddeall na ofynnwyd i Mrs X a oedd eisiau rhwymynnau ar ei briwiau. Yn lle ymchwilio i’r gŵyn, penderfynodd yr Ombwdsmon wneud argymhellion i’r Bwrdd Iechyd ac fe gytunodd y Bwrdd i’w gweithredu.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Mrs X am beidio â gofyn a oedd eisiau rhwymynnau ar ei briwiau, a gwneud hynny o fewn 30 diwrnod gwaith.