Roedd cwyn Mr A ar ran ei wraig ddiweddar, Mrs A, yn ymwneud ag oedi yn nhriniaeth canser y fron ei wraig yn 2019 yn Ysbyty Singleton, yr oedd ei wraig o’r farn oedd wedi cyfrannu at ei phrognosis gwael. Roedd y gŵyn hefyd yn cyfeirio at yr oedi mewn ymateb i a thrin y tiwmor oedd wedi lledaenu i wddf Mrs A yn ogystal â chyfathrebu gwael am ofal canser Mrs A. Roedd y gŵyn yn nodi’r annigonolrwydd o ran y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymdrin â’r gŵyn.
Daeth archwiliad yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd yr oedi yn y driniaeth wedi effeithio ar brognosis Mrs A na’r canlyniad, gan fod ei chanser eisoes yn wael iawn a’r prognosis yn wael ar adeg ei hasesiad cychwynnol. Gan nad oedd y sganiau triniaeth cynllunio radiotherapi i safon ddiagnostig, nid oedd y ffaith bod modd gweld y tiwmor yng ngwddf Mrs A yn golygu bod ei gofal canser yn amhriodol. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr agweddau hyn ar y gŵyn.
Nododd yr Ombwdsmon fethiannau o ran cyfathrebu, ac roedd hefyd o’r farn y dylai Mrs A fod wedi cael gwybod am ei phrognosis gwael yn gynt na’r hyn ddigwyddodd. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod y straen ychwanegol, yn ogystal â’r diffyg eglurder ac ansicrwydd ynghylch rheolaeth a gofal Mrs A wedi achosi anghyfiawnder i Mrs A a’i theulu. I’r graddau hyn, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhan hon o’r gŵyn.
Yn ogystal, daeth yr Ombwdsmon o hyd i oedi gweinyddol a arweiniodd at ymateb hwyr i’r gŵyn, ac er bod yr ymateb yn eithaf cadarn, roedd yr Ombwdsmon o’r farn y gallai’r methiannau o ran cyfathrebu fod wedi gwaethygu straen Mrs A ar adeg anodd a heriol. Roedd hyn wedi achosi anghyfiawnder, cadarnhawyd y rhan hon o’r gŵyn.
Ymhlith yr argymhellion i’r Bwrdd Iechyd oedd ymddiheuro i Mr A am y methiannau, ac adolygu prosesau cyfathrebu gyda chleifion ynghylch prognosis canser gwael yn enwedig.