Dyddiad yr Adroddiad

06/26/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202301725

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei gŵr. Yn benodol, roedd hi’n anniogel ei ryddhau o’r ysbyty ac nid oedd modd esbonio’r cyfeiriad mewn cofnodion meddygol at ofal lliniarol.

Canfu’r Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi’i oedi ac nad oedd yn ddigonol. Gan ei bod o’r farn bod hyn wedi achosi anghyfiawnder i Mrs A, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gynnig taliad amser a thrafferth. Hefyd, cytunodd i ailystyried y gŵyn a darparu ymateb i Mrs A o fewn 6 wythnos.