Dyddiad yr Adroddiad

03/22/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202107344

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs B am y gofal a’r driniaeth iechyd meddwl a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i’w gŵr, Mr C, rhwng mis Hydref 2020 a mis Hydref 2021. Yn benodol, roedd yr ymchwiliad yn ystyried y cwynion fod y Bwrdd Iechyd wedi methu sicrhau’r canlynol:

a) Darparu adolygiad seiciatrig priodol, yn enwedig mewn ymateb i atgyfeiriadau gan feddyg teulu yn ystod haf 2021.

b) Darparu adolygiad a chefnogaeth briodol yng nghyswllt trefn meddyginiaeth Mr C.

c) Gwneud trefniadau digonol i gefnogi anghenion iechyd meddwl Mr C.

d) Ymateb yn ddigonol i’r pryderon a godwyd gan Mrs B.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu adolygiad seiciatrig priodol ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2021 mewn ymateb i bryderon a godwyd gan 2 feddyg teulu a Mrs B. Roedd yn debygol bod y methiant i ddarparu’r lefel ddisgwyliedig o ofal yn ffactor arwyddocaol a gyfrannodd at ddirywiad iechyd meddwl Mr C i’r pwynt lle’r oedd wedi cymryd 2 orddos meddyginiaeth yn fwriadol ddiwedd mis Gorffennaf 2021. Yn unol â hynny, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.

Canfu’r ymchwiliad, er bod Mr C wedi cael cefnogaeth ac adolygiadau meddyginiaeth priodol, nad oedd wedi cael gwybod am ganlyniad trafodaethau perthnasol yn ôl yr addewid. I’r graddau cyfyngedig hynny, dyfarnwyd bod modd cyfiawnhau’r ail gŵyn.

Canfu’r ymchwiliad, yn dilyn y penderfyniad i drosglwyddo Mr C i dîm iechyd meddwl cymunedol gwahanol, bod methiant i ddarparu cefnogaeth reolaidd briodol. Yn unol â hynny, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y drydedd gŵyn.

Dyfarnodd yr Ombwdsmon hefyd fod y bedwaredd gŵyn wedi’i chyfiawnhau ar y sail nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn Mrs B yn ddigonol.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro am y methiannau a nodwyd a thalu iawndal o £1,250 am yr anghyfiawnder a achoswyd i Mrs B a Mr C. Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd drafod yr adroddiad hwn mewn cyfarfod llywodraethu clinigol priodol a diweddaru ei bolisïau i sicrhau bod trosglwyddo gofal rhwng ei dimau iechyd meddwl cymunedol yn cael ei gwblhau’n gyflym.