Dyddiad yr Adroddiad

11/17/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202102905

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr W nad oedd staff, ar ddau achlysur pan gafodd ei dderbyn i Ysbyty Singleton yn Ionawr a Chwefror 2020, wedi cynnal ymchwiliadau priodol i gael diagnosis o diwmor ymennydd ei wraig.
Nododd yr Ombwdsmon, pan gafodd ei derbyn gyntaf i’r ysbyty, fod Mrs W wedi cael ei hatgyfeirio gan ei Meddyg Teulu am ei bod yn flinedig, bod ganddi boen yn ei phen a’i bod yn teimlo bod rhywbeth yn bod ar ei chydbwysedd a’i bod yn gollwng pethau. Er bod y staff meddygol wedi gwneud diagnosis o hypercalcaemia (lefelau calsiwm uwch yn y gwaed) y tybiwyd a oedd wedi’i achosi gan Fitamin D atodol, canfu’r Ombwdsmon fod gan Mrs W symptomau na ellid eu priodoli i hypercalcaemia ac y dylid bod wedi cynnal sgan ar yr ymennydd. Canfu’r Ombwdsmon pan gafodd Mrs W ei haildderbyn i’r ysbyty gyda symptomau a oedd yn gwaethygu 10 niwrnod ar ôl ei rhyddhau, fod sgan CT (defnyddio pelydrau-x a chyfrifiadur i greu delwedd o du mewn y corff) wedi’i gynnal yn briodol. Fodd bynnag, roedd canlyniad y sgan yn amwys, ac roedd yr Ombwdsmon yn credu y dylai hynny fod wedi arwain at sgan arall. Ni wnaed hynny, a chafodd Mrs W ei rhyddhau o’r ysbyty am adolygiad arbenigol arall. O ganlyniad i hynny, canfu’r Ombwdsmon na wnaed diagnosis o diwmor ymennydd Mrs W tan iddo gael ei haildderbyn i’r ysbyty 13 diwrnod yn ddiweddarach.

Canfu’r Ombwdsmon ei bod yn debygol iawn pe bai sganiau ar yr ymennydd wedi’u cynnal pan gafodd Mrs W ei derbyn i’r ysbyty y tro cyntaf, y gallai diagnosis o’r tiwmor ymennydd fod wedi’i wneud yn gynharach. Yn anffodus, ni fyddai diagnosis cynharach wedi effeithio ar y canlyniad gan fod tiwmor ymennydd Mrs W yn un ffyrnig ac ni fyddai wedi ymateb i driniaeth, Er hynny, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod oedi cyn gwneud diagnosis wedi arwain at bryder a thrallod i Mrs W a’i gŵr, a bod hynny’n anghyfiawnder sylweddol iddynt. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Mr W am ei fethiannau. Argymhellodd hefyd y dylai rannu ei hadroddiad â staff meddygol i ddangos y methiannau a ganfuwyd ac i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu, a chyflwyno tystiolaeth ei fod wedi gwneud hynny.