Dyddiad yr Adroddiad

02/12/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ynys Môn

Pwnc

Treth Cyngor

Cyfeirnod Achos

202404715

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod y Cyngor wedi cymryd camau cyfreithiol mewn perthynas ag ôl-ddyledion treth gyngor. Cyfeiriodd hefyd at ddiffyg ymateb y Cyngor i’w negeseuon ebost yn holi am hyn ac yn codi gordaliad posib o dreth cyngor yn y flwyddyn flaenorol. Roedd Ms A, sydd ag awtistiaeth, wedi sôn am hyn yn un o’i negeseuon ebost i’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2024. Dywedodd Ms A fod cael llythyrau bygythiol fis ar ôl mis tra roedd y Cyngor yn ei hanwybyddu wedi gwneud iddi deimlo’n bryderus.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor, mewn blynyddoedd blaenorol, wedi ystyried awtistiaeth Ms A i raddau ac wedi gwneud addasiadau i’w wasanaeth treth cyngor. Fodd bynnag, nododd yr Ombwdsmon fod cyfleoedd i’r Cyngor fod wedi gwneud mwy o ran diwallu anghenion Ms A, gan gynnwys wrth gyfathrebu â hi’n fwy diweddar. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod diffygion yma. Roedd yr Ombwdsmon yn feirniadol nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn brydlon i negeseuon ebost Ms A. Nododd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ymddiheuro am hyn o’r blaen a chytuno, pe bai Ms A yn cynnal y trefniant taliadau treth cyngor, y byddai’n hepgor y gost llys yn 2024 a ysgwyddwyd gan Ms A.

Fel rhan o setliad datrys cynnar, cytunodd y Cyngor hefyd y byddai’n rhoi datganiad treth cyngor i Ms A fel bod ganddi ddarlun clir o’i hatebolrwydd treth cyngor ar gyfer 2023/2024; y byddai’n ymddiheuro eto am yr oedi cyn ymateb ac yn nodi ei safbwynt ynghylch hepgor costau llys ymhellach ar gyfer 2023. Byddai’r Cyngor, ar y cyd â’i Swyddog Cydraddoldeb, hefyd yn gweld a oedd pwyntiau dysgu ychwanegol o achos Ms A o ran cyfathrebu/addasiadau rhesymol.