Cwynodd Mr B, yn dilyn newid yn ei amgylchiadau, er iddo ffonio’r Cyngor ddiwedd mis Medi/ddechrau mis Hydref 2022 i wneud trefniant talu nad oedd wedi cael bil Treth Gyngor ar gyfer ei gyfeiriad blaenorol. Gadawodd yr eiddo ym mis Mehefin 2022. Roedd y beilïaid wedi cysylltu ag ef yn 2024 mewn perthynas â’r dreth gyngor oedd heb ei thalu.
Rhoddodd y Cyngor sicrwydd i’r Ombwdsmon y byddai’n ystyried cynnig taliad fforddiadwy gan Mr B. Cyfeiriodd hefyd at ffyrdd y gellid lleihau dyled treth cyngor a chostau llys Mr B. Trefnodd yr Ombwdsmon fel rhan o setliad datrys buan i’r Cyngor anfon anfonebau treth cyngor perthnasol at Mr B, gan gynnwys un a oedd wedi’i anfon cyn i Mr B adael ei eiddo yn ogystal â gwybodaeth eiriolaeth arall. Cytunodd hefyd i ystyried a oedd gwersi y gellid eu dysgu o achos Mr B ynghylch hyrwyddo ymyrraeth gynharach, o ystyried Protocol Treth Gyngor Llywodraeth Cymru.