Dyddiad yr Adroddiad

09/01/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ddinbych

Pwnc

Trafnidiaeth Ysgol

Cyfeirnod Achos

202206944

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Roedd y gŵyn yn ymwneud â’r ffordd y gwnaed penderfyniad yn 2022 ynghylch cymhwysedd ar gyfer cludiant am ddim i’r ysgol mewn perthynas â disgyblion ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Codwyd pryder hefyd nad oedd polisi cludiant ysgol y Cyngor (“y Polisi”) yn adlewyrchu’r darpariaethau ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (“y Mesur”) na’r Canllawiau Gweithredol yn briodol.

Nododd yr Ombwdsmon bod diffyg eglurder ym mhenderfyniad y Cyngor ynghylch yr apêl yn yr achos hwn a’i fod wedi defnyddio’r term ‘yn ôl disgresiwn’ yn anghywir yng nghyswllt ei ystyriaeth o’r cais. Roedd y Cyngor wedi cydnabod hyn ac ymddiheurodd i’r ymgeisydd.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Polisi yn dangos bod darparu cludiant ysgol ar gyfer disgyblion ag ADY yn dod o dan y darpariaethau yn ôl disgresiwn yn hytrach na’r darpariaethau statudol. Fodd bynnag, gallai geiriad y Polisi fod yn llawer cliriach er mwyn adlewyrchu’n gywir y gofynion cludiant sydd wedi’u nodi yn y Mesur ar gyfer disgyblion ag anableddau.

Felly cytunodd y Cyngor i wneud y canlynol:

O fewn 1 mis

• Ysgrifennu dogfen ganllaw yn rhoi manylion am ddyletswyddau’r Cyngor a’i broses ar gyfer ystyried ceisiadau am gludiant ysgol i fyfyrwyr anabl/ADY, gan ystyried darpariaethau a geiriad y Mesur a’r Canllawiau Gweithredol. Y nod yn hyn o beth yw helpu ymgeiswyr a dylai fod ar gael ar ei wefan ar yr un dudalen â’i Bolisi Cludiant Ysgol.

• Edrych ar sut i wella’r esboniadau ar gyfer ei benderfyniadau am gludiant ysgol, er mwyn sicrhau bod y geiriad a’r esboniadau yn glir i’r ymgeiswyr o ran yr hyn a gafodd ei ystyried a sut y daethpwyd i’r penderfyniad. Dylai hyn gynnwys cyfeiriadau at ddeddfwriaeth, canllawiau a pholisïau perthnasol.