Bu i Mrs A gwyno bod y Cyngor wedi gwrthod darparu cludiant i’r ysgol i’w merch a chanddi anghenion dysgu ychwanegol. Gwrthodwyd apêl Mrs A yng ngham 1. Ceisiodd apelio yn erbyn y penderfyniad yng ngham 2, ond ni fu iddi wneud hynny o fewn amserlenni’r Cyngor.
Canfu’r Ombwdsmon, er nad oedd unrhyw dystiolaeth na chafodd y penderfyniad gwreiddiol ei wneud yn briodol, nad oedd yn ymddangos bod y Cyngor wedi ystyried gwybodaeth berthnasol am anghenion dysgu ychwanegol y plentyn a gyflwynwyd yn ystod y cam apelio. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Cytunodd y Cyngor i ddarparu i Mrs A ymateb ysgrifenedig a oedd yn egluro’r rhesymau dros ei benderfyniad ac yn nodi’r broses ar gyfer gwneud cais i gael cludiant i’r ysgol o dan ei weithdrefnau anghenion dysgu ychwanegol.