Cwynodd Ms A am addasrwydd y trefniadau cludo i fynd â’i mab, sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, i’r coleg. Fel rhan o’i chŵyn, mynegodd Ms A anfodlonrwydd â phroses apelio’r Cyngor.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd cyfathrebu ysgrifenedig y Cyngor â rhieni/gofalwyr am y broses apelio gystal ag y gallai fod. Fel rhan o’r datrysiad cynnar, cytunodd y Cyngor y byddai’n adolygu dogfennau’r apêl ac yn datblygu dogfen weithdrefn ar gyfer rhieni/gofalwyr.