Dyddiad yr Adroddiad

22/11/2022

Achos yn Erbyn

Valleys To Coast Housing

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202204297

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms T nad oedd Cartrefi Cymoedd i’r Môr wedi datrys ei chŵyn am adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwaith trwsio yn ei chartref a’r diffyg gwaith glanhau a chynnal a chadw yn y mannau cymunedol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Gymdeithas Tai wedi methu ag ymateb i gŵyn Ms T. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms T. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai i ymddiheuro i Ms T, rhoi eglurhad am y methiant i ymateb i’r gŵyn, a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 2 wythnos.