Dyddiad yr Adroddiad

10/12/2023

Achos yn Erbyn

Valleys To Coast Housing

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202304650

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms D bod Tai Cymoedd i’r Arfordir wedi methu darparu ymateb i’w chwynion am eu methiant i ymgymryd â gwaith atgyweirio i’w heiddo.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas Dai wedi oedi wrth gyhoeddi ymateb i ddwy o gwynion Ms D ac y bu oedi wrth ymgymryd â’r atgyweiriadau angenrheidiol i’r to. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms D. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i ysgrifennu at Ms D gydag ymddiheuriad ac esboniad am y methiannau a nodwyd a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 2 wythnos.