Dyddiad yr Adroddiad

02/15/2024

Achos yn Erbyn

Tai Tarian

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202308119

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss J fod Tai Tarian wedi methu darparu ymateb i’w chŵyn am ei methiant i wneud gwaith atgyweirio i’w heiddo.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas wedi cofnodi pryderon Miss J fel ceisiadau gwasanaeth, roedd wedi methu cofnodi cwyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss J. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ysgrifennu at Miss J i ymddiheuro am y methiant i gofnodi cwyn ac i ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos.