Dyddiad yr Adroddiad

03/22/2024

Achos yn Erbyn

Llywodraeth Cymru

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202206003

Canlyniad

Adroddiad Diddordeb cyhoeddus

Cwynodd Mr A a Mr B fod Llywodraeth Cymru wedi methu â defnyddio ei phwerau i sicrhau bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych yn gweithredu i ateb anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Cwynodd Mr A a Mr B hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi methu â delio’n iawn â chŵyn a wnaethant am y mater hwn.

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ateb anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr. Mae’n ofynnol iddynt adnabod ac asesu’r angen yn eu hardal a chyflwyno cynllun i’w gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru felly rôl arwain hanfodol i’w chwarae mewn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswydd i ddarparu llety.

Casglodd yr ymchwiliad fod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni’r rôl hon a bod ei methiant i ymateb i Gynghorau Conwy a Sir Ddinbych wedi amharu ar allu Conwy a Sir Ddinbych i ateb yr angen am lety gan Sipsiwn a Theithwyr. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth a thrallod i Mr A a Mr B ac roedd eu hanghenion llety’n parhau i fod heb eu cwrdd. Mae’n debygol hefyd bod eraill yn y gymuned wedi, neu efallai wedi, eu heffeithio gan y methiant hwn.

Ni chafodd cwyn Mr A a Mr B ei thrin yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru. Cafodd eu cwyn ei dosbarthu’n anghywir fel un na allai gael ei hystyried o dan y polisi. Cymerwyd gormod o amser i roi gwybod iddynt nad oedd eu cwyn yn cael ei hystyried.

Argymhellais fod Llywodraeth Cymru yn ymddiheuro wrth Mr A a Mr B am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn ac yn cynnig talu £1,000 yr un iddynt i gydnabod yr anghyfiawnder a achoswyd iddynt oherwydd y methiannau hyn. Argymhellais hefyd fod Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i awdurdodau lleol bod yn rhaid iddynt barhau i gymryd camau i gwrdd ag angen ar gyfer Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr a gymeradwywyd tra bo’r Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr diwygiedig yn cael eu hasesu, yn penderfynu a ddylid cymeradwyo’r Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr diwygiedig a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol ac yn cynhyrchu cynllun ar gyfer adolygu proses a threfniadau monitro ar gyfer Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr. O ran trin cwynion, argymhellais fod Llywodraeth Cymru yn atgoffa staff trin cwynion o bwysigrwydd ymateb yn brydlon a sicrhau bod yr holl staff sy’n trin cwynion yn derbyn hyfforddiant ar eu polisi cwynion a sut y dylid ei ddefnyddio. Cytunodd Llywodraeth Cymru i weithredu’r argymhellion hyn.