Dyddiad yr Adroddiad

10/10/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ynys Môn

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202305513

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod y Cyngor wedi methu ymateb i gŵyn am ollyngiad dŵr o eiddo cyfagos a gyflwynwyd ganddo â llaw ym mis Mehefin 2023. Cwynodd hefyd bod y Cyngor wedi hysbysu’r Ombwdsmon nad oedd wedi derbyn cwyn.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi hysbysu ei swyddfa’n anghywir nad oedd wedi derbyn cwyn Mr A a’u bod wedi methu cofnodi ei gŵyn yn briodol. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd i setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr A, esbonio beth ddigwyddodd i’w gŵyn, darparu ymateb i gŵyn Cam 2, cynnig taliad o £150 a darparu adborth i’r staff perthnasol am eu gweithdrefnau cwyno o fewn 4 wythnos.