Dyddiad yr Adroddiad

09/05/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ynys Môn

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202302701

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod y Cyngor wedi methu rhoi sylw priodol i’w gŵyn ynglŷn â cherbydau yn defnyddio llwybr troed oedd yn pasio’r tŷ i fynd i eiddo ei gymydog.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi rhoi sylw priodol na rhesymol i gŵyn Mr A. Dywedodd fod hyn yn cyfateb i gamweinyddu ac yn anghyfiawnder i Mr A.

Er mwyn datrys cwyn Mr A, cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mr A ac i roi sylw priodol i’w gŵyn. Cytunodd i wneud hyn cyn pen 2 fis.