Dyddiad yr Adroddiad

13/02/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202407494

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod Cyngor Sir y Fflint wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Hydref 2024 ynghylch gwaith atgyweirio i’w chartref.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi mynychu cartref Ms X ac wedi rhoi sylw i’r pryderon yn anffurfiol, roedd wedi methu ag ymateb yn ffurfiol i’w chŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymddiheuriad, o fewn pythefnos, i Ms X am beidio ag ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn, i ymateb yn ffurfiol i gŵyn Ms X gan amlinellu’r gwaith atgyweirio y gall ei wneud ac na all ei wneud, a rhoi amserlen i Ms X ar gyfer pryd y bydd y gwaith y gall ei wneud yn cael ei gwblhau.