Cwynodd Ms X fod Cyngor Sir y Fflint wedi methu datrys nifer o broblemau gydag atgyweiriadau yn ei chartref.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ystyried pryderon Ms X o dan ei weithdrefn gwyno ffurfiol. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms X. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor, o fewn pythefnos, ymddiheuro i Ms X nad oedd ei phryderon wedi’u huwchgyfeirio drwy weithdrefn gwyno ffurfiol y Cyngor, ynghyd â chyhoeddi ymateb Cam 1 i’r gŵyn a fyddai’n cynnwys yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwneud y gwaith a’i gwblhau. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny.