Dyddiad yr Adroddiad

24/03/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202409628

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod Cyngor Sir y Fflint wedi methu ag ymateb i’w negeseuon e-bost a’i galwadau, a’i bod wedi bod yn byw mewn adeilad sy’n adfeilio ers 18 mlynedd.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ymateb i bryderon Miss X. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hwn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai, o fewn 3 wythnos, yn ymddiheuro i Miss X am yr esgeulustod o ran peidio â chofnodi ei phryderon fel cwyn ffurfiol, darparu esboniad am yr oedi a’r diffyg ymateb, a chyhoeddi ymateb Cam 1 yn unol â’i weithdrefn gwyno.