Dyddiad yr Adroddiad

06/27/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Benfro

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202301992

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs R fod Cyngor Sir Benfro wedi methu ymateb i’w chŵyn am atgyweirio tai.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn i’r Cyngor gydnabod cwyn Mrs R a’i fod wedi methu darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon. Ar ben hynny, nid oedd wedi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs R. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymddiheuriad ac esboniad i Mrs R am y methiannau a nodwyd, i gynnig iawndal o £75 iddi ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.