Cwynodd Mr A, tenant Cyngor, nad oedd y Cyngor, er ei fod wedi cyflwyno nifer o geisiadau am i waith atgyweirio gael ei wneud i’w gartref, wedi ymchwilio i ddŵr yn gollwng (mae’r ffynhonnell yn ansicr) a’i gywiro a/neu drin clytiau o lwydni a ddatblygodd yn yr eiddo o ganlyniad. Darparodd Mr A dystiolaeth ffotograffig o’r hyn sy’n ymddangos fel difrod sy’n gysylltiedig â dŵr/llwydni i addurniad y waliau a’r nenfydau, ynghyd â chraciau ym mhlastr y waliau a’r nenfwd.
Cytunodd y Cyngor i wneud y canlynol er mwyn setlo cwyn Mr A:
• Cysylltu â Mr A cyn 23 Gorffennaf 2021 i drefnu amser cyfleus i archwilio ei eiddo mewn perthynas â’i bryderon am ollyngiadau dŵr, lleithder, llwydni a materion eraill
• Cynnal yr archwiliad o fewn amserlen y cytunwyd arni a pharatoi adroddiad priodol
• Cyflawni unrhyw waith adfer sy’n briodol ym marn y Cyngor (yn dibynnu ar ganlyniad yr archwiliad ac yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau ar gyfer gwaith atgyweirio).
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn setliad priodol.