Dyddiad yr Adroddiad

06/30/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202301393

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms L nad oedd Cyngor Caerdydd wedi gweithredu ar ei phryderon a godwyd, a’i fod wedi methu darparu datrysiad.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cael cwyn ffurfiol gan Ms L, ei fod wedi methu glynu wrth ei drefn gwyno statudol a darparu ymateb. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms L.

Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyhoeddi ymddiheuriad ac ymateb i gŵyn o fewn pythefnos.