Dyddiad yr Adroddiad

04/28/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202208724

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr S fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a anfonodd ym Medi 2022.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, er i’r Cyngor ymateb ar lafar, nad oedd wedi darparu gwybodaeth weithdrefnol o fewn ymateb ysgrifenedig ffurfiol yn unol â’i weithdrefn gwyno statudol. Dywedodd fod hyn wedi achosi dryswch a rhwystredigaeth i Mr S.

Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Cyngor â chais yr Ombwdsmon i roi esboniad ysgrifenedig i Mr S ynglŷn â sut yr ymchwiliodd i’w bryderon ar y pryd, ac ymddiheuriad am beidio ag ysgrifennu ato yn gynt. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r uchod o fewn 30 diwrnod gwaith.