Cwynodd Mr A fod y Cyngor wedi methu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo nac ymateb i’w ohebiaeth wrth ystyried ei gais digartrefedd. Dywedodd y cafodd gynnig llety dros dro anaddas. Roedd hefyd yn poeni nad oedd ei gwynion ffurfiol wedi cael eu hystyried dan bolisi cwynion y Cyngor.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod tystiolaeth bod Mr A wedi cael gwybodaeth resymol, bod negeseuon e-bost wedi cael eu hateb a bod cynnig arall o lety dros dro wedi cael ei wneud. Fodd bynnag, roedd hi’n bryderus nad oedd y materion gwasanaeth a godwyd gan Mr A wedi cael eu cofnodi ac nad oedd wedi cael ymateb iddynt fel cwynion ffurfiol.
Ceisiodd a sicrhaodd gytundeb y Cyngor i ystyried cwynion Mr A dan ei bolisi cwynion, o fewn mis. Cafodd y cam hwn ei dderbyn fel dewis arall yn lle ymchwiliad.