Dyddiad yr Adroddiad

09/25/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202304567

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Dywedodd Mrs P fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu darparu ymateb i’w phryderon ynghylch y ffordd y mae wedi’i thrin yng nghyswllt anghydfod rhwng cymdogion ynglŷn â ffin.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Cyngor wedi methu cofnodi pryderon Ms G fel cwyn gorfforaethol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs P. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mrs P i ymddiheuro a rhoi eglurhad am y methiant ac i gyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 1 o fewn 2 wythnos.