Dyddiad yr Adroddiad

10/27/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202305452

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr G bod Cyngor Bro Morgannwg wedi methu darparu ymateb i’w gŵyn ynghylch asbestos posibl.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cysylltu â Mr G, nid oedd wedi cyhoeddi ymateb i’w gŵyn ac nid oedd wedi darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs G. Penderfynodd i setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr G gydag ymddiheuriad ac esboniad am y methiannau a nodwyd a chyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 2 o fewn 3 wythnos.