Dyddiad yr Adroddiad

03/20/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202207512

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A nad oedd Cyngor Bro Morgannwg wedi ymateb i’w chŵyn ynghylch tai ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi rhoi ymateb i Miss A ond bod yr ymateb y tu allan i’r Polisi Pryderon a Chwynion Corfforaethol. Fodd bynnag, nid oedd y Cyngor wedi rhoi gwybod iddi am y polisi. Roedd hyn yn golygu bod Miss A yn teimlo bod ei chŵyn wedi cael ei hanwybyddu a oedd, meddai, yn effeithio ar ei hiechyd meddwl.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor ac i ddatrys cwyn Miss A, cytunodd y byddai copi o’r polisi Pryderon a Chwynion Corfforaethol yn cael ei anfon at Miss A o fewn 20 diwrnod gwaith, y byddai ei chŵyn yn cael ei throsglwyddo i Gam 2 ac y byddai’r Cyngor yn cysylltu â Miss A i benderfynu ar brif bwyntiau’r gŵyn ac ymateb yn unol â’r drefn gwyno.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol ac felly ni ymchwiliodd i’r gŵyn.