Dyddiad yr Adroddiad

05/11/2023

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Wales & West

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202300091

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs D bod Cymdeithas Tai Wales & West wedi methu darparu ymateb i’r chwyn Cam 2 a gyflwynodd ym mis Chwefror 2023.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas Tai wedi darparu gwybodaeth reolaidd ac ystyrlon ar y sefyllfa ddiweddaraf, nid oedd wedi cyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 2. Dywedodd bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs D. Penderfynodd i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Gymdeithas Tai i ymddiheuro i Mrs D, darparu esboniad am yr oedi a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn erbyn 9 Mehefin 2023.