Dyddiad yr Adroddiad

02/10/2023

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Unedig Cymru

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202206631

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms L fod Cymdeithas Tai Unedig Cymru wedi methu ag ymateb i bryderon a godwyd ganddi ym mis Mawrth 2022 ynghylch problem draenio yn ei heiddo.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi methu â gweithredu’n unol â’i gweithdrefn gwyno statudol a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms L.

Yn lle ymchwilio, gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro wrth Ms L a chynnig taliad ariannol o £50 iddi. Cytunodd y Gymdeithas hefyd, o fewn 30 diwrnod gwaith, i ymateb yn ffurfiol i gŵyn Ms L a fyddai’n cynnwys diweddariad ar yr ymchwiliad i’r broblem draenio.