Dyddiad yr Adroddiad

04/20/2023

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Siarter (rhan o'r Grŵp Pobl)

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202208422

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr R fod y Gymdeithas Charter Homes (Rhan o’r Grŵp Pobl) wedi methu â thrwsio giât gymunedol ers rhoi gwybod ei bod mewn cyflwr gwael yn 2004, er i’w gontractwr gynnal sawl archwiliad.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod y Gymdeithas wedi ceisio trwsio’r giât ond ei fod wedi methu â darparu ymateb ffurfiol i gyfleu hyn ac i fanylu beth aeth o’i le a sut mae’n bwriadu datrys ei gŵyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad a chytunodd y Gymdeithas â chais yr Ombwdsmon i ymateb i’r gŵyn ac ymddiheuro am yr oedi o fewn pythefnos.