Dyddiad yr Adroddiad

02/29/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202308943

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms V fod Cymdeithas Tai Hafod wedi methu datrys y gwahanol faterion cynnal a chadw yn ei heiddo ac nad oedd wedi ymateb i’r gŵyn a wnaeth iddi ym mis Hydref 2023.

Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi gan y Gymdeithas i gywiro’r problemau yn yr eiddo ac ymateb i gŵyn Ms V. Dywedodd fod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Ms V. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro i Ms V a rhoi iawndal iddi o £150 am ei hamser a’i thrafferth yn codi ei chŵyn gyda’r Ombwdsmon. Cytunodd y Gymdeithas hefyd i roi ymateb i gŵyn Ms V sy’n cynnwys rhestr o’r gwaith sydd i’w wneud, o fewn 3 wythnos.