Dyddiad yr Adroddiad

02/23/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202308841

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cymdeithas Tai Hafod wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Gorffennaf 2023 ynghylch dŵr yn gollwng yn ei gegin. Cwynodd Mr R ymhellach am waith atgyweirio oedd heb ei wneud i’w lawr.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y bu oedi ac esgeulustod mewn perthynas â’r ymateb i’r gŵyn gan Hafod. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb Hafod i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos. Dylai’r ymateb hefyd gynnwys ymddiheuriad am yr oedi, diweddariad ar y gwaith arfaethedig, ac iawndal o £150 i gydnabod yr oedi a’r angen i gysylltu â’r Ombwdsmon.