Dyddiad yr Adroddiad

10/13/2023

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202305286

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss L fod y Gymdeithas wedi methu datrys ei phryderon ynglŷn â gwastraff a gwaith cynnal a chadw o amgylch ei heiddo. Cwynodd ymhellach bod y Gymdeithas wedi methu cynnal gwaith yn ei heiddo ac nad oedd wedi cyhoeddi ymateb i’w chwyn.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, er bod y Gymdeithas wedi gweithredu ar rai o’r pryderon a godwyd gan Miss L, ei bod wedi methu â mynd ar drywydd y pryderon, ac wedi methu â gweithredu yn unol â’i gweithdrefn gwyno statudol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss L. Penderfynodd i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ddarparu ymddiheuriad i Miss L am yr oedi cyn ymateb, cyhoeddi ymateb i’r gŵyn, a gweithredu’r gwaith angenrheidiol i ac o amgylch eiddo Miss L. Cytunodd y Gymdeithas i weithredu hyn o fewn 30 diwrnod gwaith.