Dyddiad yr Adroddiad

03/03/2023

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202207985

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms D am y ffordd yr oedd Cymdeithas Tai Hafod wedi delio â’i chŵyn am ddiffyg dŵr poeth o dapiau ei bath.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi methu ymateb i negeseuon ebost cwyn Ms D. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms D. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i roi ymddiheuriad ac esboniad i Ms D am yr oedi, cynnig iawndal o £100 iddi a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.