Cwynodd Miss M fod Cartrefi Dinas Casnewydd wedi methu ag ymateb i’r gŵyn am fethiant gwasanaeth a gyflwynwyd ganddi ym mis Awst 2024.
Canfu’r Ombwdsmon y bu methiant gan y Gymdeithas i ymateb i gŵyn Miss M a bod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Miss M. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Gymdeithas i ddarparu ymddiheuriad ysgrifenedig i Miss M ac esboniad am y methiant, i dalu iawndal o £50 iddi am ei hamser a’i thrafferth gorfod cysylltu â’r Ombwdsmon, a rhoi ymateb iddi o fewn 10 diwrnod gwaith.