Dyddiad yr Adroddiad

03/02/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202206840

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb iddi i’r gŵyn a gyflwynodd iddo fwy na 6 mis yn ôl.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod yn ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, a achosodd anghyfleustra a rhwystredigaeth i Ms X ac a arweiniodd hi i gysylltu â’r Ombwdsmon. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn, o fewn tri mis, ac ymddiheuro am yr oedi.