Cwynodd Ms A fod Adra wedi ei thrin yn wahanol o’i chymharu â thenantiaid eraill, ac wedi gwneud honiadau ei bod wedi torri telerau ei thenantiaeth heb ddarparu tystiolaeth o ddrwgweithredu.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas Dai wedi ystyried y gŵyn dan Gam 2 y drefn gwyno fel y gofynnodd Ms A, drwy ei heiriolwr. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd y Ombwdsmon i’r Gymdeithas Dai anfon ymateb i gŵyn Cam 2 o fewn 4 wythnos, gan ymddiheuro i Ms A am y gwall wrth anwybyddu ei neges ebost yn gofyn i’r gŵyn gael ei huwchgyfeirio, a chytunodd y Gymdeithas Dai i wneud hynny.