Dyddiad yr Adroddiad

10/06/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Sŵn a materion niwsans arall

Cyfeirnod Achos

202500022

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y wybodaeth a ddarparwyd iddo gan Gyngor Gwynedd (‘y Cyngor’) ynghylch sut i godi pryderon ynghylch problemau s?n o eiddo cyfagos. Cwynodd hefyd am sut y rheolwyd ei gŵyn am y gwasanaeth.
Canfu’r ymchwiliad fod y Cyngor wedi darparu gwybodaeth i Mr A am ei gŵyn am sŵn o eiddo cyfagos. Fodd bynnag, nid oedd wedi egluro’r gofynion ar gyfer tystiolaeth a ystyrir yn niwsans statudol na sut y gallai Mr A gyflwyno tystiolaeth newydd os oedd yn ymddangos ei bod yn bodloni’r meini prawf. Yn ogystal, canfu’r Ombwdsmon fod Mr A wedi cael gwybodaeth anghywir am broses gwyno’r Cyngor, a arweiniodd ato’n cysylltu â’r Ombwdsmon yn rhy gynnar.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi gwybodaeth i Mr A am y meini prawf ar gyfer niwsans statudol, a’i opsiynau ar gyfer sut i gyflwyno tystiolaeth berthnasol i’r Cyngor i ystyried achos newydd. Yn ogystal, cytunodd y Cyngor i adolygu’r wybodaeth gwyno a ddarparwyd i Mr A, ymddiheuro am y camgyfathrebu ynghylch ei broses, a chymryd camau i osgoi ailadrodd. Cytunodd y Cyngor hefyd i ystyried iawndal ariannol am yr amser a’r drafferth a gymerodd Mr A i gyflwyno ei gŵyn. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r camau hyn o fewn 4 wythnos.