Cwynodd Mr A am ymateb Cyngor Caerdydd i ganfyddiad y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (SRS) bod Ardal Gemau Amlddefnydd (MUGA) y tu allan i’w eiddo yn achosi niwsans sŵn statudol. Cwynodd hefyd fod y sŵn a achoswyd gan MUGA y Cyngor yn cael effaith sylweddol ar ei fywyd.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn briodol i gasgliadau’r SRS ac nad oedd wedi cymryd camau priodol i leihau’r niwsans sŵn statudol. Canfu’r Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr A, a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i wneud y canlynol:
O fewn 4 wythnos, dylai’r Cyngor:
- Ymddiheuro i Mr A am beidio â chymryd y camau priodol yn dilyn adroddiad sŵn SRS, ac am beidio â lleihau’r niwsans sŵn statudol a achosir gan y MUGA.
- Cynnig iawndal o £300 i Mr A am yr anghyfleustra a achoswyd.
O fewn 8 wythnos, dylai’r Cyngor:
- Cymryd camau i sicrhau bod y niwsans statudol yn cael ei leihau.
8 wythnos ar ôl y llythyr hwn, dylai’r Cyngor:
4. Os na chaiff y niwsans statudol ei leihau o fewn y cyfnod hwnnw, dylai’r Cyngor dalu £75 yr wythnos i Mr A cyhyd ag y bydd achos y niwsans statudol yn parhau.