Cwynodd Mr C am fethiannau yn y modd yr ymdriniodd y Cyngor â’i gwynion am sŵn yn erbyn eiddo cyfagos ers 2020. Ystyriwyd bod materion a ddigwyddodd cyn mis Chwefror 2020 wedi mynd heibio’r amser i wneud cwyn i swyddfa’r Ombwdsmon, ond ystyriwyd bod materion a ddigwyddodd ers mis Chwefror 2023 wedi’u gwneud o fewn amser. Roedd hyn yn cynnwys cwyn bod y Cyngor wedi methu â bwrw ymlaen â chamau cyfreithiol arfaethedig yn ymwneud â thorri hysbysiad atal sŵn a gyflwynwyd ar y safle yn 2018, ac nad oedd wedi cymryd camau priodol ers i’r methiant gael ei nodi.
Canfu’r asesiad o’r gŵyn hon fod y Cyngor eisoes wedi ymddiheuro am y camau cyfreithiol sydd wedi’u gohirio, ac wedi nodi mai’r rheswm oedd methiant i wneud gwaith dilynol priodol ar gynnydd yr achos pan adawodd aelod presennol o staff. Gan fod y gŵyn ynghylch sŵn yn fater parhaus, roedd hefyd yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r niwsans sŵn wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, nid oedd yn glir a oedd y Cyngor wedi mynd i’r afael ag achos y methiannau drwy gymryd camau i atal gwall tebyg rhag digwydd yn y dyfodol, nac wedi ystyried unrhyw iawndal ariannol am y trallod, yr amser a’r drafferth a achoswyd i Mr C.
Cytunodd y Cyngor i gynnig taliad iawndal o £250 o fewn 4 wythnos. Cytunodd hefyd, o fewn 8 wythnos, i sefydlu proses/gweithdrefn fewnol yn ymwneud ag ymdrin â chwynion sŵn a’u symud ymlaen, i ymgorffori camau dilynol perthnasol o fewn amserlenni priodol, pan fo angen. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ganlyniad priodol a chaeodd yr achos ar y sail hon.