Bu i Mr A gwyno nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (“y Cyngor”) wedi cyfathrebu’n effeithiol ag ef a’i fod wedi methu â chymryd camau yn sgil adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol a s?n gan ei gymdogion.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd gweithdrefnau’r Cyngor i ymchwilio i gwynion am sŵn yn eglur, na chafodd Mr A wybodaeth am sut i wneud cais i gael adolygiad amlasiantaethol o’i achos, ac nad oedd y Cyngor wedi ymddiheuro am yr oedi o ran rhoi gwybod iddo am yr hyn a oedd yn digwydd. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor gytuno i ysgrifennu at Mr A cyn pen pythefnos i ymddiheuro am y cyfathrebu gwael, ac i fynd ati cyn pen dau fis i adolygu ei weithdrefnau o ran ymchwilio i gwynion am sŵn a rhoi gwybod i achwynwyr am eu hawl i wneud cais i gael Adolygiad o Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (Sbardun Cymunedol). Cytunodd y Cyngor i wneud y pethau hyn.