Cwynodd Ms C nad oedd Arolygiaeth Gofal Cymru wedi gweithredu’n ddiduedd pan wnaeth ymchwilio ac ymateb i’w chŵyn.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd diffyg didueddrwydd yn ymchwiliad y Corff, ond nid oedd yr ymateb wedi ystyried yn llawn bod diffyg cyfathrebu ynghylch argaeledd hyfforddiant, a oedd wedi achosi trallod diangen i Ms C. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Corff y byddai’n darparu adborth i’r staff perthnasol, esboniad i’r holl staff ynghylch argaeledd hyfforddiant ac yn ymddiheuro i Ms C am sut y bu iddo gyfathrebu â hi, o fewn pedair wythnos.