Cwynodd Miss X fod ei gardd flaen mewn cyflwr gwael, ac nad oedd wedi derbyn diweddariadau nac ymateb gan Gymdeithas Tai Trivallis. Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi cau’r gŵyn yn anghywir ac wedi methu â diweddaru Miss X, er gwaethaf ei hymdrechion dro ar ôl tro i gyfathrebu gyda’r Gymdeithas. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss X.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i, o fewn 4 wythnos, ymddiheuro i Miss E, egluro’r rhesymau dros y diffyg cyfathrebu a’r methiant i ddarparu ymateb i’r gŵyn, cynnig talu taliad iawndal o £250 iddi a chyhoeddi ymateb cam 2 i’r gŵyn.