Dyddiad yr Adroddiad

08/14/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Rheoli Ystad o Dan Do

Cyfeirnod Achos

202303175

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr H fod Cyngor Sir Powys wedi gohirio gosod goleuadau argyfwng ac nad yw wedi gosod goleuadau dros dro.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â rhoi goleuadau dros dro ac wedi rhoi’r wybodaeth anghywir i Mr H. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr H. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr H i ymddiheuro a rhoi esboniad am yr oedi cyn gosod goleuadau dros dro, ymddiheuro ymhellach i Mr H am roi’r wybodaeth anghywir, a gosod goleuadau dros dro o fewn 2 wythnos.