Dyddiad yr Adroddiad

28/01/2025

Achos yn Erbyn

Adra

Pwnc

Rheoli Plâu

Cyfeirnod Achos

202407001

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am bla o lygod mawr yn yr eiddo. Dywedodd ei fod wedi cwyno i Adra am y mater nifer o weithiau dros y blynyddoedd, ond er gwaethaf hyn, parhaodd y broblem.

 

Nododd yr Ombwdsmon fod Mr A wedi rhoi gwybod am broblemau ers 2021. Ar bob achlysur, roedd Adra wedi cofnodi cais am wasanaeth ac mewn ymateb, wedi cysylltu â Rheoli Plâu’r Awdurdod Lleol i roi sylw i’r mater. Yn ystod trafodaeth gydag Adra, hysbyswyd yr Ombwdsmon fod gweithwyr wedi mynychu’r eiddo i gau tyllau yn y wal dân yn yr atig. Fodd bynnag, nid oedd gan Adra gofnod o gŵyn ffurfiol. Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd Adra wedi cael cyfle rhesymol i ymchwilio i bryderon Mr A na nodi a ellid gwneud unrhyw beth arall i sicrhau bod y broblem yn cael ei datrys. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb Adra i gysylltu â Mr A o fewn 1 wythnos i gydnabod derbyn ei bryderon. Wedi hynny, ymchwilio i gŵyn Mr A ac ymateb iddi yn unol â’r broses gwyno.