Dyddiad yr Adroddiad

06/11/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Rheoli coed/Gorchmynion Diogelu Coed/Gwrychoedd uchel

Cyfeirnod Achos

202505353

Canlyniad

Datrys yn gynnar

. Cwynodd Mr A nad oedd y Cyngor wedi cynnal gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar y tir gwastraff wrth ymyl ei eiddo ac nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w gŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi gweithredu ar adroddiad arbenigol a oedd yn ymwneud â rheolaeth y tir gwastraff. Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod y Cyngor wedi methu â darparu ymateb i gŵyn i Mr A.
Felly, cytunwyd, o fewn 4 wythnos i’r llythyr penderfyniad, y dylai’r Cyngor ddarparu ymateb i’r gŵyn i Mr A ac, o fewn 2 fis i’r llythyr penderfyniad, goedlannu’r coed priodol, yn amodol ar unrhyw bolisïau a chymeradwyaethau perthnasol.