Cwynodd Mrs X fod Cyngor Abertawe wedi oedi cyn mynd i’r afael â’r pryderon a gododd ynghylch y coed, a’i fod wedi methu â’i diweddaru.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod a bod y Cyngor wedi methu â darparu ymateb i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro am yr oedi, darparu ymateb i’r gŵyn a chynnig taliad iawndal o £150 o fewn 3 wythnos i gydnabod yr oedi, y methiant i ddarparu ymateb i’r gŵyn ac am amser a thrafferth Mrs X.