Cwynodd Dr X nad oedd Cyngor Sir Ddinbych wedi dilyn eu canllawiau ar apeliadau parcio anffurfiol ac nad oedd wedi ymateb i’w apêl o fewn 28 diwrnod.
Canfu’r Ombwdsmon, nad oedd y Cyngor wedi ymateb i apêl anffurfiol Dr X o fewn 28 diwrnod, na ymddeiherio am yr oedi. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hwn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Dr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gwyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor, o fewn 2 wythnos, i ymddiheuro am yr oedi i roi ymateb o fewn 28 diwrnod,ac ystyried diweddaru’r geiriad ar ei wefan / negeseuon cydnabyddiaeth i reoli disgwyliadau’n well ynglyn â chyfnodau amser ymateb.