Dyddiad yr Adroddiad

15/10/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Parcio (gan gynnwys gorfodi a beilïaid)

Cyfeirnod Achos

202409206

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Gwnaeth Mr A gŵyn ar ran Mr B ynghylch gweithredoedd Cyngor Caerdydd (“y Cyngor”) ym mis Chwefror 2024 pan wnaeth Asiantau Gorfodi (“AG”) gam-nodi Mr B fel person oedd yn ddyledus yn ariannol am droseddau parcio.
Canolbwynt yr ymchwiliad oedd a oedd yr AG wedi dilyn gweithdrefnau priodol wrth nodi Mr B fel y person oedd yn ddyledus yn ariannol am y troseddau parcio, a oedd y Cyngor wedi methu â gweithredu’n briodol tuag at Mr B fel person agored i niwed a oedd yn siarad ychydig iawn o Saesneg ac angen cyfieithydd, ac a oedd ymateb y Cyngor i’r gŵyn yn briodol.
Ar ôl cychwyn yr ymchwiliad, cytunodd y Cyngor i’r canlynol i setlo’r gŵyn yn llawn.
Cytunodd y Cyngor, o fewn 1 mis i’r penderfyniad hwn, i:
• talu £500 i Mr B i gydnabod y gofid a achoswyd gan yr ymweliad gorfodi a’r gofid cynyddol a achoswyd gan ei driniaeth gychwynnol o’r gŵyn.
• rhoi ymddiheuriad ysgrifenedig ystyrlon i Mr B am y materion yn ymwneud â’r ymweliad gorfodi ac am y ffordd y cafodd y gŵyn ei thrin wedi hynny.
Cytunodd y Cyngor, o fewn 3 mis i’r penderfyniad hwn, i:
• drafftio a darparu copi o’i ganllawiau mewnol cymeradwy i’r Ombwdsmon i gefnogi arferion gwaith cyfredol ar gyfer AGau, a fydd yn cynnwys y canlynol yn benodol:
– Gwiriadau adnabod: Gofynnir am ffurf o adnabod i sicrhau bod ymgysylltu’n cael ei wneud â’r unigolion cywir lle bo’n briodol ac yn gymesur, er enghraifft: lle mae rhwystrau cyfathrebu neu iaith, lle mae amheuaeth ynghylch a yw’r person sy’n bresennol yn ddyledwr enwol neu lle mae angen gwirio i fwrw ymlaen yn gyfreithlon neu’n ddiogel.
– Camerâu a Wisgir ar y Corff (“BWC”): Lle mae rhwystrau iaith yn amlwg yn ystod ymweliadau ag eiddo, bydd yr AG yn actifadu BWCau i sicrhau bod pob sgwrs yn cael ei recordio. Os yw’r AG yn credu bod diffyg dealltwriaeth wedi bod, byddant yn hysbysu’r Uwch Asiant Gorfodi i sicrhau bod y lluniau’n cael eu cadw y tu hwnt i’r cyfnod cadw arferol.
– Mynediad i gyfieithydd: Lle bo’n briodol, cynigir mynediad at gyfieithydd drwy Wasanaeth Dehongli a Chyfieithu Cymru (“WITS”). Cydnabyddir na fydd hyn bob amser yn ymarferol yn ystod ymweliadau ar garreg y drws. Os dewisir aelod o’r teulu i gyfieithu, bydd hyn yn cael ei gofnodi yn nodiadau’r AG a’i ddal ar luniau BWC.
– Cofnodi nodiadau achos: Bydd holl aelodau’r Tîm Gorfodi yn cael gwybod am bwysigrwydd cofnodi nodiadau llawn a chywir yn syth ar ôl ymweliadau. Nid yw cymryd nodiadau ôl-weithredol yn arfer derbyniol.
– Uwchgyfeirio: Bydd AGau yn adrodd ac uwchgyfeirio ar unwaith unrhyw amgylchiadau lle mae achos pryder i berson agored i niwed yn ystod ymweliadau gorfodi.
– Monitro: bydd y gweithdrefnau gwell yn cael eu monitro’n rheolaidd i sicrhau cydymffurfiaeth ac effeithiolrwydd parhaus.