Dyddiad yr Adroddiad

02/10/2023

Achos yn Erbyn

Panel Heddlu a Throseddu De Cymru

Pwnc

Panel yr Heddlu a Throsedd

Cyfeirnod Achos

202206432

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr Y fod Panel Heddlu a Throseddu De Cymru wedi methu ag ymateb i’w gŵyn a wnaeth ym mis Mawrth 2022.

Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr oedi a bod anhwylustod wedi’i achosi i Mr Y oherwydd methiant y Panel i roi ymateb iddo. Yn lle ymchwilio, gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Panel ymddiheuro wrth yr achwynydd a thalu iawndal ariannol o £100 iddo i gydnabod yr oedi. Cytunodd y Panel hefyd i ymateb i gŵyn Mr Y o fewn pedair wythnos.